Mae’n ddull o ystyried dulliau newydd o gynorthwyo a chryfhau ein cymunedau.
- Helpu cymunedau i helpu eu hunain i gyflawni’r hyn y byddant yn ei ddymuno
- Galluogi cymunedau i ddatblygu eu dyheadau a’u breuddwydion
- Bydd gan gymunedau fwy o ddylanwad
- Bydd cymunedau yn arwain yn hytrach na’r awdurdod lleol yn dweud wrthynt beth ellir ac na ellir ei wneud
- Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael ei adnabod fel arweinydd cymunedol cryf a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu ein cymunedau
“Mae angen i ni gyd newid. Mae gweithwyr y Cyngor Wrecsam yn newid gydag agenda’r Gwasanaethau Ail-lunio a gobeithiwn y byddwch yn derbyn y newidiadau hyn hefyd.”
Y Cynghorydd Hugh Jones – Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Cydweithrediad a Phartneriaethau – Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam