Gall gwirfoddoli ychwanegu llawer iawn i’ch bywyd a bywydau’r bobl y byddwch yn gwirfoddoli iddynt.
Mae’n cynnig cyfle i chi fod yn rhan o brosiect neu’n gysylltiedig â chymdeithas yr ydych yn meddwl llawer ohono a bydd hefyd yn gyfle i gyfarfod â phobl sy’n debyg i chi.
Bydd rhai pobl yn gwirfoddoli oherwydd eu bod am newid gyrfa ac mae gwirfoddoli’n rhoi cipolwg gwerthfawr iddynt weld beth sydd ynghlwm wrth y swydd. Bydd eraill yn gwirfoddoli oherwydd eu bod am ddysgu sgiliau newydd, rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymuned neu elusen sydd wedi cyffwrdd â’u calon neu galon un annwyl. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd; mae’r wobr yn ddrud.
Mae’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol (a adnabyddir hefyd fel y Trydydd Sector) yn rhan bwysig o gymuned Wrecsam. Mae’n yn cynorthwyo pobl Wrecsam ym mhob cyfnod bywyd. Mae mudiadau cymunedol a gwirfoddol yn gweithredu meithrinfeydd a chylchoedd chwarae i blant bach, grwpiau mamau a phlentyn a chynlluniau dydd i blant, grwpiau ieuenctid i bobl ifanc a grwpiau chwaraeon i bob oed, yn ogystal â grwpiau treftadaeth, grwpiau tacluso amgylcheddol, a grwpiau creu gerddi cymunedol. Beth bynnag sy’n digwydd yn eich ardal, mae bob amser cyfle i wirfoddoli a gwneud gwahaniaeth.
Trydydd Sector Bwrdd Gwasanaethau Lleol WrecsamClybiau Chwaraeon
Ymunwch – Dangoswch eich cefnogaeth at chwaraeon lleolY Rhaglen Hyfforddi a Gwirfoddoli Chwaraeon
Lluniwyd y rhaglen wirfoddoli i annog pobl i gymryd rhan, drwy ddarparu cymaint o gyfleoedd â phosib.
Mae’r cyfleoedd hyn ar gyfer pobl o bob oed a gallu mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.
Rhaglen Wirfoddoli Wrecsam
Canfyddwch fwyArchifau ac Archeoleg
Canfyddwch fwyGwasanaeth Celf
Canfyddwch fwyCludiant Cymunedol
Canfyddwch fwyGwasanaeth Cefn Gwlad
Rydym yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli yn y rhan fwyaf o’n parciau. Ceir amrywiaeth o dasgau sy’n angenrheidiol i helpu cynnal a chadw a gwella ein parciau. Bydd yn amrywio o waith cadwraeth ymarferol i helpu gyda digwyddiadau.
Parciau a Chefn Gwlad Parc Gwledig Tŷ Mawr Hawliau Tramwy CyhoeddusAmgueddfeydd
Gwirfoddolwyr TreftadaethGwirfoddoli gyda ni yn Archifdy ac Amgueddfa Wrecsam
Gwirfoddolwyr ifancGwirfoddoli yn y Gymuned
Gwirfoddoli CymruGwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder ieuenctid Wrecsam yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd rhwng 8 a 17 oed er mwyn eu hatal rhag troseddu ac aildroseddu.
Mae gennym Agenda Atal gynhwysfawr sy’n cynnwys y Tîm Ymyrraeth Cynnar. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned ar fentrau sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo plant a theuluoedd yn ardaloedd Wrecsam.
Mae gennym nifer cynyddol o wirfoddolwyr sy’n cynnig cymorth i’r tîm drwy ymgymryd ag amrywiaeth o swyddogaethau sy’n cynnwys gwirfoddoli fel Mentoriaid, Oedolion Priodol ac Aelodau’r Panel Atgyfeirio. Anogir pobl o bob oed a chefndir i ddod yn gysylltiedig.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid