2019/20 Grantiau Cyllid

Ni does dyddiad cau i dderbyn ceisiadau a bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail teilyngdod a’i fod yn bodloni’r meini prawf isod. Adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, a chynhelir adolygiad i ystyried pa gyllid sy’n weddill, a hyn fydd yn penderfynu ar y symiau a geir eu dyfarnu yn y deuddeg mis nesaf. Cafodd y cynllun grant galluogi Wrecsam Ynghyd (y cynllun) ei sefydlu gan y Cyngor fel o ganlyniad i’n hymrwymiad i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd i gymryd rhan weithredol wrth ddarparu gwasanaethau. Mae’r adnodd sydd ar gael ar gyfer y cynllun yn gyfyngedig, gydag arian o’r neilltu mewn cronfa wrth gefn. Bydd adolygiad blynyddol yn pennu’r cyfanswm sydd ar gael yng nghronfa’r cynllun am y 12 mis canlynol. Bydd y panel yn cyfarfod bob tri mis i ystyried ceisiadau, gan ddilyn yr amserlen isod:

2019/20
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Panel yn cyfarfod yn ystod: Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu yn ystod trydedd wythnos:
28 Chwefror 2019 Mawrth 2019 Ebrill 2019
31 Mai 2019 Mehefin 2019 Gorffennaf 2019
30 Awst 2019 Medi 2019 Hydref 2019
29 Tachwedd 2019 Rhagfyr 2019 Ionawr 2020
28 Chwefror 2020 Mawrth 2020 Ebrill 2020

Bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried ar sail teilyngdod a chan gyfeirio at y meini prawf a nodir isod. Disgwylir y bydd unrhyw brosiect llwyddiannus yn:

  • Cynnig rhywbeth newydd – ni cheir cyllid ar gyfer gweithgareddau “busnes fel arfer”.
  • Gallu dangos manteision gwirioneddol i’r gymuned ehangach
  • Cefnogi’r ethos gwirfoddolwyr
  • Annog cydlyniant cymunedol
  • Bod yn hunangynhaliol, h.y. parhau heb gymorth ariannol pellach, unwaith y bydd yr arian grant / benthyciad yn cael ei wario. Wrth ystyried hyn, ni roddir cyllid ar gyfer costau gweithredu, fel rhent a chyflogau, neu ar gyfer digwyddiadau unigryw

Bydd y broses ddyfarnu yn cymryd pob un o’r pum maen prawf uchod i ystyriaeth yn gyfartal; bydd y rhain yn ffurfio sail y matrics sgorio a fydd yn arwain y Swyddogion ac Aelodau’r Cyngor wrth benderfynu ar ddyfarniadau. Rhaid i bob cais gael ei gefnogi a’i lofnodi gan y Cyngor Cymuned mwyaf priodol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adroddiad i fodloni’r Cyngor Cymuned bod yr arian wedi cael ei wario yn briodol.

Wrecsam Ynghyd “Grantiau Cyllid”

Dyfarniadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Gall dyfarniadau oddi wrth y cynllun gan y Cyngor gymryd un o ddwy ffurf:-

  • Grant hyd at werth bum mil o bunnau (£5,000) NEU
  • Benthyciad di-log gwerth hyd at ugain mil o bunnau (£20,000) yn ad-daladwy dros gyfnod sy’n gymesur â natur y cynllun, a’r manteision sydd i’w deillio o’r cyllid. Disgwylir na fyddai unrhyw gyfnod ad-dalu fel arfer yn fwy na phum mlynedd, ond ni fydd hyn yn cael ei orfodi’n llym lle gellir dangos byddai gwneud hynny yn gwneud y cynnig yn anymarferol.
  • Dim ond un cais llwyddiannus yn unig gall Gyda’n Gilydd yn Wrecsam ei dderbyn gan sefydliad unigol mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
  • Os oes angen cyngor arnoch am lenwi’r ffurflen gais, neu ar unrhyw elfennau o’r broses gyflwyno, cysylltwch â together@wrexham.gov.uk.

Crynodeb Ceisiadau Llwyddiannus

Cliciwch yma am grynodeb o’r holl gynigion a dderbyniodd y panel ariannu.

Cyngor Ariannol

Mae Llinellfusnes CBSW yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd ariannu i grwpiau cymunedol, er enghraifft, rhannu gwybodaeth am sefydliadau darparu grantiau, ac ymchwil lleol sy’n gallu cryfhau ceisiadau ariannu. Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) yn darparu gwasanaeth rhoi cyngor ariannol am ddim. Cliciwch yma i fynd at eu tudalen gyllid, sydd â dolenni at daflenni cyngor, a ffurflen ymholiadau. Byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ar “Chwilio am Gyllid” dan ein label ‘Grwpiau’ hefyd.